Rhif y ddeiseb: P-06-1369

Teitl y ddeiseb: Defnyddiwch enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Byddai hyn yn dangos parch tuag at Gymru, fel cenedl sydd â’i hanes a'i diwylliant ei hun; a byddai’n cydnabod rhai o’r ffyrdd y mae Cymru wedi dioddef gorthrwm diwylliannol yn hanesyddol o ran ei hiaith a'i diwylliant.

Yn y lle cyntaf, gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn ôl eu harfer. Fodd bynnag, ym mhob cyd-destun swyddogol, ac yn y cyfryngau llafar ac ysgrifenedig, dylid defnyddio’r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.

Yn dilyn datblygiadau yn ymwneud ag enwau Eryri a Bannau Brycheiniog, rydym o’r farn ei bod yn amser da i ddechrau defnyddio enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru.

 


 


1.        Cefndir

Mae enwau pentrefi, trefi a dinasoedd Cymru wedi datblygu dros gyfnod o ddwy fileniwm. Er bod mwyafrif yr enwau lleoedd yng Nghymru yn Gymraeg, mae tarddiad rhai enwau lleoedd yn Saesneg, Ffrangeg, Lladin, Gwyddeleg, Norseg a Brythoneg (gan esblygu i ddod yn Gymraeg fel rydym yn ei hadnabod heddiw).

Mae enghreifftiau o rai enwau lleoedd Cymraeg yn unig y gellir eu hadnabod yn cynnwys Aberystwyth, Bangor, Tonypandy, Penarth a Phontypridd. Fodd bynnag, mae sawl enghraifft o ddinasoedd, trefi a phentrefi yng Nghymru sydd ag enw Cymraeg a Saesneg.

Mae gan rai o'r lleoedd hynny sydd ag enwau Cymraeg a Saesneg sillafu ac ynganiad tebyg iawn yn y ddwy iaith. Lleoedd fel:

-      Caerffili - Caerphilly;

-      Caerdydd - Cardiff;

-      Merthyr Tudful - Merthyr Tudful;

-      Treorci - Treorchy.

Mae Dr. Dylan Foster Evans yn ymhelaethu ar esblygiad enwau lleoedd Cymraeg yn yr erthygl fer hon - Enw da yw'r trysor gorau. Mae'n nodi bod Caerdydd, er enghraifft, ‘yn deillio o’r ffurf ganoloesol Caerdyf(sydd hefyd yn rhoi Cardiff yn y Saesneg)’. Mae'n nodi bod ieithyddion yn credu bod yr enw'n debygol ‘wedi ei lunio’n gyntaf yn yr iaith Frythoneg, yn y cyfnod pan oedd y Rhufeiniaid yn byw yng Nghaerdydd tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl’.

Mae enghreifftiau o enwau Saesneg fel Flint (Y Fflint), Wrexham (Wrecsam) a Caldicot(Cil-y-coed) sydd wedi'u mabwysiadu gan y Cymry yn hytrach na'r ffordd arall. Yn yr un modd, yr enw gwreiddiol ar Fiwmares oedd yr enw Normanaidd-Ffrangeg - Beaumaris. 

Mae gan leoedd eraill yng Nghymru enwau amgen nad ydynt yn gysylltiedig â'i gilydd. Dyma enghreifftiau:

-      Newport - Casnewydd (mae’r Gymraeg yn golygu Castell Newydd);

-      Swansea (yn deillio o'r Norseg sy'n golygu Ynys Svein) - Abertawe (mae’r Gymraeg yn golygu Aber Afon Tawe);

-      Brecon (yn deillio o Deyrnas Gymreig Brycheiniog) - Aberhonddu (daw’r Gymraeg o Afon Honddu);

-      Anglesey (yn deillio eto o Norseg - Ongul), tra bo'r enw Cymraeg Môn, wedi’i gofnodi gyntaf fel Lladin Mona

Mae enghreifftiau o enwau lleoedd Cymraeg wedi’u Seisnigeiddio yn peidio â chael eu derbyn neu eu defnyddio'n raddol, gan gynnwys Caernarvon (Caernarfon), Conway (Conwy), Portmadoc (Porthmadog) a Llanelly (Llanelli). 

Mae hefyd lleoedd lle mae anghytundebau parhaus ynghylch p’un a ddylid defnyddio'r sillafu Cymraeg yn gyfan gwbl ai peidio, fel yn Varteg (Farteg) sydd wedi cael rhywfaint o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar.

2.     Y Panel Safoni Enwau Lleoedd

Mae Comisiynydd y Gymraeg, corff annibynnol a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gyfrifol am roi cyngor ar y ffurfiau safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae rhestr o ffurfiau safonol enwau Cymraeg pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru ar gael ar-lein i unrhyw un sydd am ei defnyddio.

Sefydlodd y Comisiynydd banel o arbenigwyr i weithio ar ffurf safonol enwau lleoedd Cymru a gwneud argymhellion arnynt. Mae gwefan y Comisiynydd yn nodi bod y Panel Safoni Enwau Lleoedd yn ystyried ‘ystyr, hanes a tharddiad yr enwau lleoedd ynghyd â'r defnydd cyfredol ohonynt wrth lunio'i argymhellion’.   Mae'r panel hefyd yn cael ei arwain gan y Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru. Mae Adran 9 - Ffurfiau deuol yn nodi'r cyngor a ganlyn i'r panel ei ystyried:

Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Saesneg’, gan dueddu at y ffurf Gymraeg. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau’r Priffyrdd. Eithr dylid cydnabod amrywiadau sefydlog (Caeriw/Carew, Biwmares/Beaumaris, Y Fflint/Flint, Wrecsam/Wrexham).

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae'r Senedd wedi ystyried sawl deiseb yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ymwneud ag enwau lleoedd Cymru ac enwau tai Cymru. Yn 2021, cyflwynwyd deiseb a alwodd ar y Senedd a chyrff eraill i ddechrau cyfeirio at enwau dinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg. Casglodd y ddeiseb 108 o lofnodion. Galwodd y deisebwyr ar gyrff cyhoeddus i ddechrau defnyddio termau ac enwau lleoedd Cymraeg er mwyn “[c]ynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch y ddeiseb gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2022. Un o’r materion a amlygywd yn ystod y sesiwn oedd bod y cyfrifoldeb dros benderfynu ar enwau lleoedd yn nwylo mwy nag un sefydliad. Ar ben hynny, nid oes deddfwriaeth benodol yng Nghymru ar gyfer safoni enwau lleoedd Cymru. Nododd y Dirprwy Gomisiynydd ar y pryd fod:

yna le inni wneud adolygiad o beth ydy sefyllfa Cymru a dod o hyd i atebion sydd yn addas i'n sefyllfa ni. Un o'r pethau dwi'n meddwl sy'n hynod bwysig ydy ein bod ni'n cael yr eglurder yna. Mae'n amlwg i fi yng Nghymru bod yna eithaf tipyn o ddryswch. Rŵan, does dim rhaid ichi gael deddfwriaeth i ddatrys dryswch, ond dwi'n meddwl ein bod ni'n methu, yn aml iawn, i gyflawni—. Er bod yna waith caled, dŷn ni'n methu cyflawni cystal ag y buasem ni'n gallu y gwaith o hyrwyddo a gwarchod yr enwau yma, oherwydd ansicrwydd hyd a lled y maes.

Er nad oedd y Dirprwy Gomisiynydd yn galw am greu deddfwriaeth newydd yn y maes hwn, dywedodd y byddai adolygiad o’r mater dan sylw yn amserol.

Yn ystod hanner cyntaf 2020, cyflwynwyd deiseb debyg a oedd yn galw am fynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg. Dyma’r camau penodol y galwodd y deisebwyr amdanynt:

Mae gan Gymru lawer o enwau lleoedd sydd wedi'u Seisnigeiddio'n ddiangen, ac sydd yn aml wedi'u disodli gan ffurfiau Seisnigedig am ddim rheswm da. Rwyf i, a'r rhai sydd wedi llofnodi isod, yn deisebu Cynulliad Cymru i weithredu ac i newid y ffurfiau Seisnigaidd hyn o enwau Cymraeg, drwy Gymru gyfan, ac i adfer eu sillafiadau Cymraeg gwreiddiol.

Trafododd Pwyllgor Deisebau’r Bumed Senedd y ddeiseb ym mis Mehefin 2020. Casglodd y ddeiseb 1,096 o lofnodion.

Yn ystod ail hanner 2020, cafodd deiseb yn galw am ddeddfwriaeth i atal newid enwau Cymraeg tai ei chyflwyno i'r Senedd. Casglodd y ddeiseb hon 18,103 o lofnodion, a chafodd ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr 2020. Yn ystod y ddadl, nododd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg blaenorol:

Rhaid imi gyfaddef bod hwn yn fater dwi yn poeni amdano, ond mae yna broblemau ymarferol mae'n rhaid inni edrych arnyn nhw…dwi yn hapus i weld a yw hi'n bosibl i ni wneud rhywbeth yn statudol hefyd. Ond, mae'n rhaid i fi ddweud, dwi ddim yn siŵr a yw hi'n bosibl, ond dwi'n fwy na hapus i weld a allwn ni symud ymhellach yn y maes yma.

Yn 2018, cafodd deiseb yn galw ar y Senedd i ddiogelu a hyrwyddo enwau lleoedd Cymru ei gyflwyno. Casglodd 431 o lofnodion a dyma’r camau penodol y galwodd y deisebydd amdanynt:

Mae mwy a mwy o enwau lleoedd a thai Cymraeg yn cael eu newid i enwau Saesneg. Mae hyn yn arwain at dranc diwylliant lleol ac un o'r elfennau sy'n gwneud Cymru'n unigryw… Dylid diogelu hen enwau Cymraeg ar leoedd ac adeiladau o dan y gyfraith, a dylai fod yn orfodol i ddatblygiadau newydd gael enwau Cymraeg er mwyn diogelu ein diwylliant a'n hiaith unigryw.

Flwyddyn yn gynharach, enillodd Dai Lloyd AS y bleidlais i gynnig bil Aelod: Datblygu Bil Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mawrth 2017.

Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bil, ac ni chafodd ganiatâd i fynd rhagddo.

Fel rhan o'i ymchwiliad yn 2017 i'r Amgylchedd Hanesyddol, bu'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (y Bumed Senedd) yn trafod y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Nododd y dylai Llywodraeth Cymru barhau i fynd ati i adolygu'r mater a bod yn barod i gyflwyno mesur diogelu arall ar gyfer enwau lleoedd hanesyddol os na fydd y rhestr bresennol yn effeithiol.

4.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Amlinellodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei gweithgarwch yn y maes hwn mewn ymateb i'r ddeiseb yn 2018 yn galw ar y Senedd i ddiogelu a hyrwyddo enwau lleoedd Cymru. Nododd, ar ôl pasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol.

Mae canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried y rhestr pan fo'u swyddogaethau’n cynnwys enwi neu ailenwi lleoedd. Mae hyn yn cynnwys enwi neu ailenwi strydoedd, adeiladau a lleoedd eraill, naill ai'n uniongyrchol neu gan barti arall. Y bwriad yw y bydd y rhestr a'r canllawiau statudol gyda'i gilydd yn arwain at ostyngiad yn nifer y newidiadau ffurfiol i enwau eiddo hanesyddol.

Fodd bynnag, nododd Llywodraeth Cymru:

…nid yw'r mesurau hyn yn mor bell â diogelu enwau lleoedd hanesyddol yn ffurfiol. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol yn statudol wrth fynd ati i ddatblygu Deddf 2016.

Mewn ymateb i'r ddeiseb yn galw am fynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg, nododd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd:

Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am roi cyngor i unigolion a sefydliadau am ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru. Mae Rhestr y Comisiynydd o Enwau Lleoedd Safonol Cymru yn adnodd ar-lein defnyddiol, y gellir ei chwilio neu y gellir ei lawrlwytho, i ddod o hyd i enwau safonol pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru…

Fodd bynnag, rôl y Comisiynydd yw awgrymu ffurfiau a sillafiadau enwau lleoedd, yn hytrach na’u gorfodi.

Wrth ymateb i’r ddeiseb sy’n galw ar y Senedd a chyrff eraill i ddechrau cyfeirio at enwau dinasoedd a threfi yn ôl eu henwau Cymraeg, nododd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fod:

Enwau lleoedd Cymraeg ar hyn o bryd yn destun sylw manwl yn y Llywodraeth, a sawl proses ar waith i gasglu tystiolaeth er mwyn llywio datblygiadau polisi yn y maes.

Mae’r Gweinidog yn gorffen ei ymateb wrth gyfeirio at ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei Raglen Lywodraethu, gan nodi:

Gwyddom fod pobl yn teimlo’n gryf am enwau Cymraeg, boed y rheiny’n enwau tai, yn enwau ar nodweddion daearyddol, neu’n enwau  ar drefi a phentrefi. Mae’r maes hwn wedi ei gynnwys yn ein Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru am ein bod ni fel Llywodraeth am wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.